SL(6)459 – Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2024

Cefndir a Diben

Sefydlwyd Cynllun Masnachu Allyriadau ("ETS") y DU gan Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020 fel cynllun masnachu allyriadau nwyon tŷ gwydr ar gyfer y DU gyfan, fel ffordd gost-effeithiol o annog y sectorau pŵer, diwydiant ac awyrennau i leihau eu hallyriadau. Fe'i cynlluniwyd ar y cyd gan y pedair llywodraeth yn y Deyrnas Unedig. Mae'n cyfrannu at dargedau lleihau allyriadau a nod sero net y DU, yn ogystal â'r llwybr lleihau allyriadau yng Nghymru.

Ym mis Rhagfyr 2023, agorodd yr Awdurdod ymgynghoriad 12 wythnos o'r enw “Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU: Adolygiad o Ddyraniadau am Ddim”, sy'n edrych ar opsiynau i dargedu'n well y rhai sydd fwyaf mewn perygl o ddadleoli carbon ac i sicrhau bod y Dyraniad Am Ddim (“FA”) o lwfansau sy'n cwmpasu allyriadau nwyon tŷ gwydr yn cael ei ddosbarthu'n deg 

Mae'r Gorchymyn hwn yn ceisio newid dyddiadau'r cyfnod nesaf ar gyfer gwneud cais am ddyraniadau am ddim o’r cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2024, i'r cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2025. Mae'r Gorchymyn hefyd yn symud terfynau amser cysylltiedig eraill i ddarparu ar gyfer yr amserlen newydd.

Mae’r Memorandwm Esboniadol yn darparu:

"mae'r amserlen sy'n berthnasol i'r ymgynghoriad yn golygu na fyddai'r safbwynt polisi terfynol yn glir cyn i'r cyfnod uchod ddod i ben.  Felly, ni fyddai gan gyfranogwyr sicrwydd o'u cymhwystra ar gyfer FAs, na'r wybodaeth briodol i'w chynnwys mewn ceisiadau, gan ei gwneud yn anymarferol iddynt wneud cais yn ystod y cyfnod hwnnw."

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Gorchymyn hwn yn y Cyfrin Gyngor gan Ei Fawrhydi cyn iddo gael ei osod gerbron y Senedd, Senedd y DU, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon ar 23 Chwefror 2024. Caiff unrhyw un o’r deddfwrfeydd hynny ddiddymu’r Gorchymyn, yn unol â’r gweithdrefnau penderfyniad negyddol sy’n gymwys i’r deddfwrfeydd hynny.

Materion technegol: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg

Nodwn y cafodd y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor ei wneud gan Ei Fawrhydi a'i osod gerbron pob un o'r pedair deddfwrfa yn y Deyrnas Unedig, ac felly mae yn Saesneg yn unig.

Rhinweddau: craffu    

Ni nodwyd pwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

4 Mawrth 2024